Finance CommitteeY Pwyllgor Cyllid
|
|
|
I’r ymgyngoreion ar y rhestr atodedig
|
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
Awst 2012 |
Annwyl Gyfeillion,
Galwad am wybodaeth – Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14
Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran dyraniadau’r gyllideb, yn arbennig yng ngoleuni’r cynnydd a wnaed mewn cysylltiad ag ymrwymiadau ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru, a gwybod a oes gennych bryderon ynghylch ymrwymiadau/dyraniadau penodol, a ble yr hoffech weld adnoddau’n cael eu canolbwyntio fwyaf, neu feysydd penodol yr hoffech eu gweld yn cael blaenoriaeth.
Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynigion y gyllideb ddrafft, gan na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Hydref 2012. Fodd bynnag, cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu ym mis Mai 2012, ac mae hwn yn dangos y cynnydd a wnaed yn ôl ymrwymiadau’r Llywodraeth. Yn ychwanegol at hyn, cyhoeddwyd dyraniadau dangosol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14 yng Nghyllideb Derfynol 2013-14.
Nodwyd pedwar cwestiwn penodol gennym yn y papur hwn. Gallwch ateb unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau, neu gallwch roi gwybod i ni am eich pryderon a’ch disgwyliadau o ran y gyllideb ddrafft yn gyffredinol.
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Mae rhai pwyllgorau hefyd yn cynnal ymarferion ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n ymwneud â phynciau penodol, ac yn cynnal sesiynau ‘speed-dating’, trafodaethau â rhanddeiliaid, ac yn ymgysylltu â phobl ifanc.
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn i lywio gwaith y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad. Os bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn gysylltiedig â maes penodol, byddwn yn anfon y wybodaeth honno at y pwyllgor(au) priodol er mwyn llywio eu gwaith craffu hwy ar waith Gweinidogion unigol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y pwyllgorau hyn, ynghyd â gwybodaeth gefndir am y Pwyllgor Cyllid, beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a lle y gallwch weld ffigurau dangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 yn atodiad 1.
Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid yn y cyfeiriad uchod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener, 14 Medi 2012. Os ydych yn dymuno cyfrannu ond yn pryderu na fydd modd i chi wneud hynny cyn y dyddiad cau, gallwch siarad â Chlerc y Pwyllgor ar 029 2089 8597.
Os yw’n bosibl, anfonwch gopi electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, drwy e-bost at Pwyllgor.Cyllid@cymru.gov.uk erbyn dydd Gwener, 14 Medi 2012.
Dylech ddechrau eich cyflwyniad drwy ddarparu rhywfaint o wybodaeth amdanoch eich hun, neu’ch sefydliad, cyn amlinellu eich safbwyntiau a’ch profiadau mewn cysylltiad â rhai neu’r cyfan o’r meysydd canlynol.
Yr hyn yr hoffem ei gael gennych: cwestiynau’r ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor wedi gwahodd cyfraniadau gan y rhai sydd ar y rhestr ddosbarthu atodedig (Atodiad 2). Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt ar y rhestr ond a fyddai am gyfrannu o bosibl. Rhoddwyd copi o’r llythyr hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Caiff papurau ysgrifenedig eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor, a gallent gael eu hargraffu wedyn gyda’r adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Fodd bynnag, os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych yn dymuno i’ch enw, fel awdur y dystiolaeth, gael ei datgelu, rhaid nodi hyn yn glir. Eich cyfrifoldeb chi fydd nodi pa rannau o’r dystiolaeth na ddylent gael eu cyhoeddi, a rhoi dadl resymol dros hynny. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a’i alwad am wybodaeth yn: www.cynulliadcymru.org
Yn gywir
Jocelyn Davies
Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid
Atodiad 1- Gwybodaeth gefndir
Pwy ydym ni?
Pwyllgor trawsbleidiol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r Pwyllgor Cyllid, sy’n cynnwys Aelodau o’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad.
Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am gyflwyno adroddiad ar gynigion a osodir gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â defnyddio adnoddau.
Pa bwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb?
Y pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb yw:
Beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?
Rhaid i gynigion y gyllideb ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai amlinellu gwybodaeth ynghylch:
· yr adnoddau sy’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
· incwm sydd i gael ei gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru).
· yr arian parod sydd i’w dynnu o Gronfa Gyfunol Cymru gan y sefydliadau hynny.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dogfen naratif sy’n rhoi eglurhad pellach o’r dyraniadau manwl i adrannau’r Llywodraeth, yn ogystal â chronfeydd wrth gefn a dyraniadau cyffredinol eraill.
Pam nad ydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ôl i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi?
Ni fydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn eithrio rhanddeiliaid rhag hefyd ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth, pryderon ac awgrymiadau ynghylch meysydd craffu posibl i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i’r cynigion ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi (ar 2 Hydref 2012).
Fodd bynnag, fel arfer bydd pwyllgorau yn dechrau ar y gwaith o graffu ar waith Gweinidogion Cymru ynghylch cynnwys y gyllideb ddrafft wythnos neu bythefnos ar ôl iddi gael ei chyhoeddi, gyda’r bwriad o gyflwyno eu casgliadau i’r Pwyllgor Cyllid ddiwedd mis Hydref. Mae’n ofynnol i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno ei adroddiad ei hun ar y gyllideb ddrafft erbyn 8 Tachwedd.
Golyga hyn fod yr amser sydd ar gael i randdeiliaid leisio eu pryderon i’r pwyllgorau yn brin fel arfer (wythnos neu ddwy). Wrth ymgynghori yn awr, gobeithiwn y bydd gan randdeiliaid fwy o amser i ystyried effaith bosibl y gyllideb.
Beth yw’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2013-14?
Gellir lawrlwytho Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2012-13 yma, gan gynnwys dyraniadau dangosol ar gyfer 2013-14, ynghyd â dogfennau esboniadol:
Gellir gweld adroddiad cynnydd diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y Rhaglen Lywodraethu yma:
Atodiad 2
Y rhestr o ymgyngoreion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Gweithredu dros Blant |
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru |
Age Cymru |
Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan |
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan |
Rhwydwaith Gwrth-dlodi Cymru |
Cyngor Celfyddydau Cymru |
Grŵp Menywod Asiaidd |
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru |
Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru |
Cymdeithas Lles Pobl o Bangladesh |
Barnardos Cymru |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Sefydliad Bevan |
Cronfa Loteri Fawr Cymru |
Black Association of Women Stepping Out |
Rhwydwaith Amgylchedd Pobl Dduon |
Rhwydwaith Sector Gwirfoddol i Bobl Groenddu Cymru |
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru |
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru |
Y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig |
Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig |
Y Gymdeithas Orthodonteg Brydeinig |
Y Groes Goch Brydeinig |
Busnes mewn Ffocws |
Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd |
Uwch Ranbarth Twristiaeth |
Ymddiriedolaeth Carbon Cymru |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Fforwm Gofal Cymru |
Gyrfa Cymru |
Gofalwyr Cymru |
CBI Cymru |
Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli |
Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion |
Plant yng Nghymru |
Comisiynydd Plant Cymru |
Chwarae Teg |
Cyngor ar Bopeth Cymru |
Clybiau Plant Cymru |
Coleg y Therapyddion Galwedigaethol |
Fferylliaeth Gymunedol Cymru |
Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru |
Sgiliau Adeiladu |
Llais Defnyddwyr Cymru |
Cyswllt Teulu Cymru |
Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA) |
Cyngor Cefn Gwlad Cymru |
Croesffyrdd Cymru: gofalu am ofalwyr |
Cskills |
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru |
Bwrdd Iechyd Cwm Taf |
Cymorth Cymru |
Cymru Yfory |
Cymdeithas Pobl Fyddar Cymru |
Anabledd Cymru |
Plant Anabl yn Cyfri Cymru |
Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru |
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru |
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru |
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol |
Estyn |
Y Comisiwn Ewropeaidd |
Undeb Amaethwyr Cymru |
Comisiwn Coedwigaeth Cymru |
Y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau |
Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru |
Y Ddraig Ffynci |
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol |
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol |
Undeb y GMB |
Llywodraethwyr Cymru |
Grayling |
Hafal |
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
Addysg Uwch Cymru |
Bwrdd Iechyd Hywel Dda |
Y Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr |
Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig Cymru |
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol |
Undeb y Mamau yng Nghymru |
Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon |
Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) |
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) |
Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr |
Y Parciau Cenedlaethol |
Cymdeithas Nyrsys Babanod Newyddenedigol |
Network Rail |
Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru |
NSPCC Cymru |
Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru |
NUT Cymru |
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
Pakistan Association of Newport & Gwent Welsh Asian Council |
Passenger Focus Cymru |
Chwarae Cymru |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Race Equality First |
Llais Ffoaduriaid Cymru |
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig |
Y Lleng Brydeinig Frenhinol |
Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu |
Coleg Brenhinol y Bydwragedd |
Coleg Brenhinol y Nyrsys |
Coleg Brenhinol Ffisigwyr Caeredin |
Coleg Brenhinol Ffisigwyr Llundain |
Coleg Brenhinol Ffisigwyr a Llawfeddygon Glasgow |
Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol |
RSC |
Y Samariaid |
Achub y Plant Cymru |
Sustrans |
Talking2Minds |
Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru |
Ymddiriedolaeth y Tywysog – Prince’s Trust Cymru |
Tros Gynnal |
TUC Cymru |
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru |
Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru |
UNSAIN Cymru |
Undeb Unite |
Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
Llais Cymru |
Voices from Care |
Cyswllt Amgylchedd Cymru |
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru |
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru |
Conffederasiwn GIG Cymru |
Cymorth i Fenywod Cymru |
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |